Deiseb a wrthodwyd Diddymu arholiadau mewn addysg
Mae arholiadau mewn ysgolion a cholegau yn aml yn arwain at fyfyrwyr yn profi llawer o straen oherwydd y pwysau i adolygu a llwyddo. Gall hyn achosi problemau iechyd meddwl. Ni ddylid gorfodi pobl i fynd drwy dudalennau o gwestiynau diwerth i gael swydd yn seiliedig ar lythyren neu rif. Rydym yn fwy nag ond rhifau a llythrennau.
Rhagor o fanylion
Dylai pobl gael swyddi ar sail eu gallu i wneud y swydd yn hytrach na chanlyniad arholiad. Nid yw addysg sy'n seiliedig ar theori yn gweithio ac nid yw profi pobl ar beiro a phapur yn gweithio ychwaith. Rhaid i addysg ymarferol fod y ffordd ymlaen er mwyn i fyfyrwyr allu dysgu am y gweithle penodol yr hoffent fod ynddo. Dylai myfyrwyr gael eu hasesu'n ymarferol ar sail yr hyn y gallant ac na allant ei wneud er mwyn cynorthwyo nhw’n well i gael swydd yn hytrach nag achosi straen a phryder wrth iddynt geisio cofio gwybodaeth ddiwerth. Dylid diddymu pob arholiad!
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi