Deiseb a gwblhawyd Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd.
Mae Llafur Cymru, mewn cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, yn cynnig cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96. Ni nododd y naill blaid na'r llall y nifer hwn yn eu maniffestos mewn etholiadau diweddar. Dylid gofyn i bobl Cymru drwy refferendwm a ydynt am ehangu maint y Senedd, gan y bydd y cynnig hwn yn arwain at ddiffyg cyfranoldeb o ran cynrychiolaeth. Mae gwasanaethau cyhoeddus a'r GIG yng Nghymru yn dioddef yn enbyd ac ni ddylai ehangu sy'n costio miliynau i drethdalwyr Cymru fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon