Deiseb a wrthodwyd Gwrthod y defnydd arfaethedig o Restrau Pleidiau Caeedig yn etholiadau'r Senedd yn y dyfodol

Mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cyflwyno newidiadau i'r system bleidleisio yng Nghymru ar ffurf Rhestrau Pleidiau Caeedig. Er fod hyn yn fwy cyfrannol na'r dull pleidleisio presennol, ni fydd pleidleiswyr bellach yn gallu cefnogi na gwrthod ymgeiswyr unigol. Mae hyn yn cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac yn rhoi siec wag i bartïon ar ba ymgeiswyr y maent yn eu cyflwyno.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi