Deiseb a gwblhawyd Gwarchod Mynydd Eglwysilan a Chefn Eglwysilan
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yn ffurfiol amgylchedd archaeolegol, hanesyddol a chynhanesyddol Eglwysilan.
Mae cyfoeth o safleoedd pwysig yno sy'n dyddio'n ôl i'r oes efydd o leiaf, gan gynnwys cistfeini "cynhanesyddol" a chelf creigiau hynafol. Hefyd, mae anheddiad mawr a map Sidydd mawr wedi’i farcio â cherrig mawr.
Y pryder yw y bydd y fferm wynt arfaethedig yn creu difrod anadferadwy i’r safleoedd.
Rhagor o fanylion
Mae’r cloddiau enwog dan fygythiad gan fod cynlluniau i geblau pŵer a/neu ffyrdd dorri trwyddynt.
Meini hirion a meini gorweddol gyda chelf creigiau neolithig arwyddocaol a marciau cwpanau hynafol. Mae eraill y mae angen eu cofnodi hefyd. Mae eu lleoliadau a’u perthynas â’i gilydd yn hollbwysig ac mae’r ffyrdd a’r platfformau y bydd angen eu hadeiladu er mwyn codi’r tyrbinau gwynt arfaethedig yn fygythiad mawr iddynt.
Linc i ddarllen mwy am y "cae carnedd"- https://coflein.gov.uk/cy/site/94677?term=eglwysilan
Linc i ddarllen mwy am un o'r meini hirion niferus. https://coflein.gov.uk/cy/site/91889?term=eglwysilan&tud=2
Dim ond megis dechrau y mae’r gwaith ymchwil i fapio'r holl feini hirion. Maent yn ffurfio "map seren" a fydd o bwys rhyngwladol. Byddai’n drychineb anadferadwy symud y cerrig neu darfu arnynt.
Mae’r "cwt hir" yma https://coflein.gov.uk/cy/site/528312?term=eglwysilan&tud=2 yn un o lawer o ddarnau o dystiolaeth i awgrymu anheddiad mawr.
Mae hefyd eglwys hynafol a mynachlog.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon