Deiseb a gwblhawyd Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg.
Mae Afon Wysg yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn Ardal Cadwraeth Arbennig. Er hynny, gan fod ansawdd y dŵr yn Afon Wysg mor wael, mae 88 y cant o'i chyrff dŵr yn methu â chyrraedd eu targedau. Gellid gosod targedau i wella’r sefyllfa. (Er enghraifft: 50 y cant erbyn diwedd 2023, 25 y cant erbyn 2024 ac ati). Mae eogiaid, brithyllod y môr a llysywod i gyd yn dirywio’n ddifrifol. Mae tyfiant chwyn Ranunculin wedi diflannu bron yn llwyr o’r afon. Mae pobl sy'n nofio'n wyllt yn yr afon mewn perygl o ddal heintiau.
Rhagor o fanylion
Ac eto, beth sy’n digwydd i atal y dirywiad hwn? Mae Dŵr Cymru yn gorff dielw, a hynny ers 20 mlynedd. Gan nad oes angen talu difidendau i randdeiliaid, gellid bod wedi buddsoddi’r arian hwn mewn cynlluniau i uwchraddio systemau carthffosiaeth ar hyd a lled Cymru. Mae’n eironig bod dŵr o afon Wysg yn cael ei bwmpio o Felin Prioress i Gronfa Ddŵr Llandegfedd ar gyfer ei yfed yn ne Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru i fod i orfodi safonau ansawdd dŵr, ond mae’n cael ei ystyried yn aneffeithiol yn gyffredinol. Mae llygredd amaethyddol a dŵr ffo pridd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y broblem. Mae newid hinsawdd ynghyd â’r cynnydd o ran sychder a llifogydd hefyd yn creu cymhlethdodau. Un o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella’r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn digwydd. Rydym yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Dŵr Cymru yn buddsoddi digon o arian i uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg i helpu’r Afon Wysg i ddychwelyd i’w hen ogoniant.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon