Deiseb a wrthodwyd Disodli graddau CBAC 2022 gydag asesiadau athrawon/graddau a ragwelir, os ydynt yn uwch, er mwyn sicrhau tegwch.
Cafodd llawer o fyfyrwyr syndod ynghylch arholiadau CBAC - cafwyd sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan rieni pryderus a myfyrwyr dig. Roedd Mathemateg A2 U3 yn gwbl wahanol i'r holl bapurau blaenorol; Roedd gan bapur Cemeg A2 U3 gynnwys Safon UG.
Sut mae tawelu meddwl ein meibion a'n merched, sy'n teimlo'n gwbl ddigalon? Maent yn ofni nad oes modd cyflawni'r graddau sydd eu hangen i fynd i’r brifysgol ac na fyddant yn cymharu'n dda ag ymgeiswyr eraill yn y DU. Mae CBAC yn dweud y gallai ffiniau graddau gael eu haddasu, ond a fydd hyn yn eu gwneud yn gymwysterau eilradd?
Rhagor o fanylion
Safodd myfyrwyr ym Mlynyddoedd 11-13 eu harholiadau allanol cyntaf y mis hwn, ar ôl dwy flynedd o darfu ar eu dysgu. Er gwaethaf y sicrwydd a roddwyd, ystyrir bod papurau arholiad CBAC yr haf hwn yn wahanol i bapurau blaenorol, ac yn profi myfyrwyr ar gynnwys nad oeddent yn ei ddisgwyl ac nad oedd eu hysgolion wedi eu paratoi ar ei gyfer. Mae hyn wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl.
Mae AQA wedi datgan y byddant yn rhoi marciau llawn am gynnwys annisgwyl. Mae CBAC wedi cynnig adolygu ffiniau graddau yn unig. Nawr mae’n rhaid i fyfyrwyr aros amser hir i glywed a fydd ffiniau graddau'n cael eu haddasu'n ddigonol i wneud yn iawn am y materion hyn.
Ond nid gostwng ffiniau graddau yw'r ateb. Os caiff ffiniau graddau eu gostwng yn sylweddol, bydd Safon Uwch CBAC yn dod yn gymhwyster llai. Mae'n rhaid i fyfyrwyr yng Nghymru sefyll arholiadau CBAC a byddant yn cael eu cymharu'n anffafriol â myfyrwyr yng ngwledydd eraill y DU. Bydd ein myfyrwyr o dan anfantais o ran cael lleoedd mewn prifysgolion. Byddai asesiadau athrawon yn decach.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi