Deiseb a gwblhawyd Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru

Bydd y Cymdeithasau Masnach sy'n cynrychioli busnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru (Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Changen PASC UK yng Nghymru) yn cwrdd â Llywodraeth Cymru â'r bwriad o gytuno ar fesurau lliniaru i leihau'r niwed yn sgil cyflwyno'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i fusnesau hunanddarpar dilys sy'n eiddo i bobl yng Nghymru. Nid ail gartrefi na llety achlysurol yw'r rhain. Mae dros 30 y cant o'r busnesau hyn wedi dweud y bydd yn rhaid iddynt gau neu gael eu gwerthu heb yr eithriadau hyn.

Rhagor o fanylion

Y corff o dystiolaeth am y niwed: https://www.pascuk.co.uk/wales-182-days-reports/
PRIF OFYNION
- Peidio â dechrau cyfri’r diwrnodau o 22 Ebrill, h.y. yn ôl-weithredol.
- Proses apelio
EITHRIADAU
- Llety sy’n destun cyfyngiadau drwy’r broses caniatâd cynllunio
- Llety sydd o fewn cwrtil prif breswylfa
- Gadael i unedau lluosog ar un safle nodi’r cyfartaledd ar gyfer deiliadaeth ar draws yr holl unedau.
- Os nad yw'r unedau yn stoc dai a dynnwyd oddi ar y farchnad ond y gellir profi drwy gofnodion cynllunio a rheoli adeiladu y cawsant eu creu o adeiladau masnachol neu amaethyddol gwag neu arallgyfeirio ar ffermydd.
- Os yw’r eiddo'n cael ei redeg gan elusen
- Dylai wythnosau a roddir gan berchnogion i elusennau gyfrif tuag at ddiwrnodau dan ddeiliadaeth.
- Os yw eich busnes llety tymor byr yn destun TAW
- Adolygu’r 182 diwrnod os bydd dirwasgiad swyddogol yng Nghymru, pandemig neu os gorfodir safleoedd i gau yn lleol.
- Cyfnod gras i fusnesau newydd
HEPGORIADAU
Ystyried nifer y diwrnodau a gymerir i wneud atgyweiriadau/gwelliannau i eiddo neu gyfnodau o salwch neu gyfrifoldebau gofalu

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,750 llofnod

Dangos ar fap

10,000