Deiseb Gwneud i bob trên stopio ym mhob gorsaf ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru.
Mae’r sefyllfa bresennol, yn enwedig yn ystod oriau prysur/cyfnodau cymudo, lle nad oes rhaid i bob trên stopio ym mhob gorsaf, yn cyfyngu ar opsiynau rhywun o ran defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer cymudo.
Rhagor o fanylion
Byddai'r weithred syml o sicrhau bod pob trên yn stopio ym mhob gorsaf yng Nghymru pe bai cais yn cael ei wneud yn golygu y gallai mwy o bobl ddefnyddio'r trên, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus eisoes yn gyfyngedig iawn. Byddai gan hyn lawer o fanteision i'r unigolyn yn ogystal â’r gymuned ehangach yng Nghymru. Y mwyaf amlwg o’r rhain yw'r manteision amgylcheddol o gael llai o bobl i ddefnyddio eu car, ond byddent hefyd yn cynnwys manteision ariannol i'r unigolyn oherwydd (ar hyn o bryd o leiaf) mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach o lawer na llenwi car â thanwydd.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd