Deiseb a wrthodwyd Newid y Polisi Cludiant i’r Ysgol i ddiogelu rhag rhannu Cymunedau lleol
Rydym yn byw mewn un o nifer o gymunedau yng Nghymru sydd wedi’i lleoli yn agos at y pwynt canol rhwng dwy ysgol uwchradd. Mae’r ddwy ysgol o bellter tebyg ond mae’r awdurdod lleol yn dehongli canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddarparu cludiant i’r ysgol agosaf, ac yn gwrthod defnyddio synnwyr cyffredin. Mae hyn yn golygu bod disgyblion sy’n byw yn yr un pentref yn gallu neu’n methu cael mynediad, yn dibynnu a yw eu cartrefi yn agos i ysgol arall nad ydynt yn mynychu.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw am adolygiad brys o bolisi a chanllawiau cludiant Llywodraeth Cymru i roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddefnyddio synnwyr cyffredin mewn achosion lle mae potensial clir i leihau traffig ac allyriadau carbon, ac osgoi rhannu cymunedau.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi