Deiseb a gwblhawyd Rhoi'r gorau i’r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai

Mae Plas Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, diwrnodau gweithgareddau a hyfforddiant personol mewn gweithgareddau awyr agored fel hwylio, hwylfyrddio a beicio mynydd. Ers 40 mlynedd, mae wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, gan ddarparu sgiliau hanfodol i unigolion a grwpiau. Mae cyrhaeddiad y rhai sydd wedi gweithio yn y Ganolfan, ac sydd wedi hyfforddi ynddi, yn ymestyn ar draws Ewrop a’r byd, sy’n dyst i bwyslais y Ganolfan ar ddarparu hyfforddiant a dysgu o’r safon uchaf.

Rhagor o fanylion

Byddai staff ymroddedig a hynod fedrus Plas Menai yn hapus i Chwaraeon Cymru chwilio am ffyrdd o wella’r Ganolfan a hyd yn oed ddefnyddio arbenigedd allanol wrth wneud hynny. Ond nid ydynt am i’r cyfleuster unigryw hwn – a’u swyddi eu hunain – gael eu trosglwyddo i ddarparwr newydd, a allai roi elw o flaen unrhyw ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac arferion cyflogaeth teg. Maen nhw hefyd yn pryderu y gallai newid darparwr amharu ar allu’r Ganolfan i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,253 llofnod

Dangos ar fap

10,000