Deiseb a wrthodwyd Gwneud pob ysgol yng Nghymru yn ysgol cyfrwng Cymraeg
Yn y gorffennol, byddai’r system addysg yn gwahardd siarad Cymraeg mewn ysgolion a byddai mesurau llym yn cael eu defnyddio i orfodi hyn, gan gynnwys y Welsh Not a chosb gorfforol. Heddiw, Saesneg yw’r iaith sy’n cael ei defnyddio yn bennaf mewn ysgolion o hyd. Trwy wneud pob ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg, gallwn gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gwrthdroi’r ideoleg negyddol am yr iaith, a chyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr llawer yn gynt. Mae plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhagor o fanylion
Roedd bron pawb rwy’n ei nabod yn casáu’r Gymraeg yn yr ysgol oherwydd stereoteipiau negyddol, cenedlaethau o drawma, a’r defnydd o ddulliau dysgu diflas, aneffeithlon mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae’r un bobl wedyn yn difaru peidio â dysgu Cymraeg pan oedd ganddynt y cyfle, gan fod yr iaith yn hynod ddefnyddiol yn y gweithle, a hi yw’r cysylltiad mwyaf uniongyrchol â'n diwylliant. Mae dysgu unrhyw iaith yn anoddach fel oedolyn. Trwy sicrhau y gall pob myfyriwr fynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg bod myfyrwyr yn dod yn ddwyieithog, gall myfyrwyr Cymru gadw'r opsiwn o ddilyn addysg bellach neu addysg uwch yn y naill iaith neu'r llall, a hynny gyda chysylltiad dyfnach â'u treftadaeth a'u diwylliant. Dyma Gymru; dylem ni siarad Cymraeg.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi