Deiseb a wrthodwyd Cydnabod gwaith caled cymorthyddion mewn ysgolion drwy roi codiad cyflog iddyn nhw.
Mae dros fil o swyddi cymorthyddion heb eu llenwi ar hyn o bryd sydd yn 4.8% o'i gymharu a holl swyddi eraill Cymru sydd ar 3.4%. Cyfartaledd cyflog dyddiol ydi £65 a mae ysgolion yn dibynnu gymaint ar y gwaith mae nhw'n gyflawni. Gofynnwn i Senedd Cymru ystyried y sefyllfa a chyflogau cymorthyddion.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae deiseb arall sy'n galw am hyn eisoes yn casglu llofnodion:
Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245235
Byddech yn fwy tebygol o gael canlyniad ar y mater hwn pe baech yn llofnodi a rhannu’r un ddeiseb.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi