Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod darllen y Mabinogion yn orfodol mewn ysgolion cynradd/uwchradd.
Ni ddarllenais unrhyw lyfrau am Gymru neu o Gymru yn yr ysgol gynradd na’r ysgol uwchradd, ac rwy’n teimlo fy mod wedi colli allan ar lawer o wybodaeth am fytholeg fy ngwlad drwy beidio â dysgu am y testun hwn yn ystod gwersi Cymraeg a Saesneg. Fel un o destunau sylfaenol Cymru, credaf ei bod hi’n ddyletswydd arnom fel Cymry i wybod am y gwaith llenyddol hwn a’i werthfawrogi.
Rhagor o fanylion
Y llyfrau a astudiais yn yr ysgol uwchradd oedd Of Mice and Men, Heroes, The Mayor of Casterbridge ac A Streetcar Named Desire. Er fy mod yn gwerthfawrogi’r testunau hyn yn fawr, roeddwn i a nifer o fy nghyfoedion yn cwestiynu pam roeddem yn dysgu am destunau a themâu nad ydynt yn berthnasol i Gymru. Dyna pam rwy’n credu y dylem astudio’r Mabinogion.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi