Deiseb a gaewyd Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!

Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni a miliynau o deuluoedd yng Nghymru’n wynebu tlodi tanwydd eithafol, mae’n bryd cyflwyno grantiau, sy'n agored i bawb, a fyddai'n caniatáu i holl bobl Cymru insiwleiddio eu cartrefi rhag y gwres a’r oerfel.
Mae'n frawychus bod gan Gymru rai o'r cartrefi â’r inswleiddio gwaethaf yn Ewrop i gyd. Byddai grant o 25 i 50 y cant tuag at gostau inswleiddio eiddo yn annog pobl i fuddsoddi i wneud eu cartrefi'n fwy ynni-effeithlon a lleihau eu hallyriadau.

Rhagor o fanylion

Mae blynyddoedd o danfuddsoddi mewn inswleiddio cartrefi Cymru wedi arwain at sefyllfa lle mae pobl yn agored i effeithiau’r cynnydd mewn prisiau ynni.
Dyna pam rydym yn galw am gyflwyno grantiau brys sydd ar gael i bawb fel y gall aelwydydd sy'n wynebu'r posibilrwydd o fod mewn cartrefi oer a llaith y gaeaf hwn dalu am fesurau inswleiddio syml. Mae angen Bargen Newydd Werdd sy’n agored i berchnogion tai, landlordiaid a chynghorau a fydd yn sicrhau bod cartrefi yn gynnes a chyfforddus, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn creu miloedd o swyddi gwyrdd.
Mae gan bawb yr hawl i gartref cynnes, ond eleni gallai miliynau o Gymry fod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta...rhaid peidio â chaniatáu i hynny ddigwydd!
Insiwleiddio yw un o'r dulliau mwyaf effeithlon o arbed ynni gan ei fod yn eich cadw'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf.
Dylai’r cwmnïau ynni, sy’n gwneud biliynau o elw pan fo cymaint yn ofni ynghylch cadw’n gynnes y gaeaf hwn, ddefnyddio eu helw i dalu am raglen insiwleiddio genedlaethol frys.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

279 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 123 o lofnodion ar bapur.