Deiseb a wrthodwyd Gwahardd cadachau gwlyb yn llwyr

Mae fy nghefndir o dreulio'r pedair degawd diwethaf yn monitro a gwerthfawrogi’r Afonydd a'u bywyd gwyllt uwchben ac o dan yr wyneb wedi fy ngalluogi i weld yn uniongyrchol sut mae cadachau gwlyb wedi cael effaith enfawr ar yr holl ffynonellau dŵr ac ecosystemau. Maent yn tagu ein carthffosydd, yn creu llifogydd o wastraff gwenwynig, a hyd yn oed yn sbarduno achosion o alergeddau difrifol.
Mae ymchwilwyr wedi cysylltu cemegau mewn cadachau gwlyb gydag achosion difrifol o broblemau alergedd croen, yn enwedig dermatitis, ecsema ac asthma.

Rhagor o fanylion

https://www.dailymail.co.uk/news/article-3003415/How-wet-wipes-destroying-planet-clogging-sewers-creating-floods-noxious-waste-triggering-outbreaks-allergies.html
Mae'r rhan fwyaf o gadachau gwlyb yn cynnwys plastig, ac oherwydd hyn, gallant achosi blociadau carthffosiaeth sy’n gorlenwi, ac yna'n gollwng i'r afonydd a'r moroedd.
Pan fyddant yn cyrraedd y blaendraeth yn y pen draw, maent yn dadelfennu'n ficroblastigion, ac yn niweidio creaduriaid dyfrol, yn ogystal â'r ecosystem.
Erbyn hyn mae cadachau gwlyb yn un o'r achosion llygredd sy'n tyfu gyflymaf.
Rydyn ni'n defnyddio cadachau nawr, o gadachau glanhau babanod, i gadachau wyneb, cadachau gwrthfacterol, a chadachau toiled, ac maen nhw'n achosi problemau difrifol yn ein carthffosydd. Mae cwmnïau dŵr yn adrodd yn barhaus mai cadachau gwlyb sy’n achosi blociadau mewn carthffosydd oherwydd maent yn amsugno’r olew a’r saim sy’n cael eu harllwys gan bobl lawr y sinc.
Felly beth ddylem ni ei wneud gyda chadachau gwlyb, a ddylem ni eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi? Nid y naill na'r llall, o ystyried bod y rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys alcohol, sylweddau glanhau, a phersawrau artiffisial sy'n gallu treiddio dŵr daear.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi