Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod brechlynnau brech y mwncïod yn cael eu cyflwyno’n gyflym yng Nghymru

Mae brech y mwncïod yn lledaenu ledled y byd, yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru.
Mae’r broses o gyflwyno gwybodaeth iechyd i’r cyhoedd a rhaglen frechu wedi bod yn arbennig o araf yng Nghymru, gyda llawer o bobl yn cael eu heintio â’r feirws a ddim yn gwybod sut neu le i gael triniaeth.

Rhagor o fanylion

At hynny, nid yw brechlynnau ar gyfer brech y mwncïod ar gael yn hawdd yng Nghymru eto yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddod â’r rhaglen frechu yng Nghymru i ben er mwyn iddynt fynd i Lundain.
Mae’r ddeiseb hon yn galw am gynnyddu’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ynglŷn â brech y mwncïod, diagnosteg, brechu, a thriniaeth fel mater o frys yng Nghymru.
Rydym yn gwybod bod y feirws yn cael effaith anghymesur ar y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a phlws (LGBT+) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl wybodaeth ac adnoddau cynllunio ar gyfer pandemig i amddiffyn Cymru rhag brech y mwncïod.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi