Deiseb a gwblhawyd Dylid ailddyrannu’r £30 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i’r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr!

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwastraffu dros £30 miliwn ar gynllun i ostwng cyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya, a hynny ar adeg pan fo adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam newydd gyhoeddi'r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru. Mae’r GIG mewn argyfwng ledled y wlad, ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cyflwr enbydus. Er enghraifft, mae meddygon teulu mewn swyddfeydd ym Manceinion yn ymdrin â phroblemau ym meddygfa Hillcrest. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod ei blaenoriaethau yn y drefn gywir. Ni fydd gostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya yn arbed cymaint o fywydau ag y byddai sicrhau bod gennym GIG sy’n gweithio!

Rhagor o fanylion

Mae gostwng cyfyngiadau cyflymder i lefel boenus o 20mya yn golygu y bydd beicwyr yn gallu goddiweddyd ceir. Fel rhywun sy’n beicio ar y ffyrdd yn aml, byddwn yn teimlo’n fwy diogel gyda cheir yn fy mhasio ar gyflymder o 30mya yn hytrach na gyrru’n rhy agos at gefn fy meic ar gyflymder o 20mya. Ac fel gyrrwr, mae fy nghar yn fwy effeithlon ar gyflymder o 30mya nag ydyw ar gyflymder o 20mya. Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu materion difrifol fel cyflwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Hefyd, amseroedd aros am ambiwlansys, cael eich gweld mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, prinder meddygon teulu. Mae'r rhestr yn un faith. Mae meddygfa Hillcrest yn enghraifft wych o fethiant. Mae’r bwrdd iechyd wedi cymryd yr awenau, ac mae meddygon locwm yn gwneud galwadau ffôn o Fanceinion, yn hytrach na bod yn bresennol yn y feddygfa, yn barod i weld pobl! Mae gan Lywodraeth Cymru cyn lleied o gysylltiad â’r cyhoedd a’r problemau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu; mae angen dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn awr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael gwared ar fannau gwyrdd yn Wrecsam a’r cyffiniau, at ddibenion codi tai, ac yn pennu terfynau cyflymder gwirion (fel y parth 50mya ar yr A483), ac eto nid yw’n fodlon mynd i’r afael â phroblemau gyda’r gwasanaethau brys! Dylid ailddyrannu’r cyllid hwn NAWR, fel mater o frys!!

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

293 llofnod

Dangos ar fap

10,000