Deiseb a wrthodwyd We demand that the Welsh Senedd has full control of natural resources in Wales

Work has already begun to transfer water from Wales to drought-hit areas of England, according to the Chair of the National Infrastructure Commission. Water is a valuable commodity and this is another example of London syphoning away our most valuable resource without any consultation or benefit to our communities. Wales is rich in natural resources and we cannot continue to allow our future and our wealth to be taken from us. All natural resources must benefit us the people who live in Wales.

Rhagor o fanylion

By one calculation Wales’ present export of water to England, from the Elan Valley to Birmingham and from Lake Vyrnwy and Tryweryn to Liverpool, could be worth as much as £4.5 billion a year. https://www.iwa.wales/agenda/2012/04/when-white-water-could-become-white-gold/
Wales is a net exporter of electricity, having consumed approximately 14.7 TWh(1) of electricity in 2019, while generating approximately 27.9 TWh. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-01/energy-generation-in-wales-2019.pdf
The valuation of the Crown Estate’s marine portfolio in Wales has increased significantly from £49.2 million in 2020 to £549.1 million in 2021. https://research.senedd.wales/research-articles/who-owns-the-seabed-and-why-it-matters/
Our Resources, Our Future, Our Choices

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Dim ond am ymgymerwyr dŵr y mae eu hardaloedd penodi’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae’r Senedd/Llywodraeth Cymru yn gyfrifol.

Mae paragraff 96 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadw cynhyrchu, trawsyrru, dosbarthu a chyflenwi trydan yn ôl. Mae rhychwant y gwaith cadw’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r diwydiant trydan, ac mae’n golygu na allai Llywodraeth Cymru, yn unochrog, gymryd rheolaeth o unrhyw agwedd ar y diwydiant yng Nghymru.

Mae’r holl dir ac eiddo a ddelir gan Ystâd y Goron yn eiddo i’r Goron. Fel y cyfryw, mae popeth sy’n ymwneud â pherchnogaeth a rheolaeth o’r tir a’r eiddo a ddelir gan Ystâd y Goron yn dod o dan y mater perthnasol a gedwir yn ôl ym mharagraff 2 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno deiseb i Senedd y DU, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y linc a ganlyn: https://petition.parliament.uk/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi