Deiseb a wrthodwyd Dylai prynwyr tro cyntaf yng Nghymru gael eu heithrio rhag treth trafodiadau tir i fod yn gyson â chyfraith Lloegr

Fel prynwyr tro cyntaf, mae pawb yn gwybod pa mor anodd yw cynilo ar gyfer blaendal gyda phrisiau tai’n cynyddu fwyfwy. Rydym wedi ymlafnio i gynilo’r blaendal, wedi dod o hyd i’n cartref cyntaf, dim ond i wynebu £4,099.75 mewn treth trafodiadau tir. Yn Lloegr, mae prynwyr tro cyntaf wedi’u heithrio rhag gorfod talu hyn. Penderfynodd Cynulliad Cymru beidio â gwneud hynny. Gadewch i ni eithrio’r HOLL brynwyr tro cyntaf rhag gorfod talu’r dreth i’n helpu i ymuno â’r ysgol dai.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi