Deiseb a gwblhawyd Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu’n unedau llai.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw Bwrdd Iechyd Lleol GIG Cymru ar gyfer Gogledd Cymru. Dyma'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy'n darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac acíwt mewn ysbytai ar gyfer poblogaeth o tua 694,000 o bobl yn chwe phrif ardal gogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam) yn ogystal â rhannau o ganolbarth Cymru. Mae wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig er 2015.

Rhagor o fanylion

Mae BIPBC wedi cael cyfres o brif weithredwyr a swyddogion gweithredol sydd, yn ddieithriad, wedi methu â mynd i’r afael â’r drychineb sefydliadol enfawr o ran gofal Betsi. Nid yw gwasanaethau fasgwlaidd, gwasanaethau strôc, amseroedd aros trychinebus mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Iechyd Meddwl ac amseroedd aros andwyol am lawdriniaethau arfaethedig yn cael eu trin â digon o frys. Mae pobl Gogledd Cymru wedi cael cam. Nid oes gwaith craffu ar benderfyniadau'r bwrdd yn digwydd ac mae cleifion yn dioddef yn ddiangen.
Mae'n amser cyfaddef bod y sefydliad yn llawer rhy fawr ac anhylaw i ymateb i'r heriau sy’n ei wynebu, a'i rannu'n unedau daearyddol llai sy'n ymateb i anghenion eu poblogaethau lleol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,017 llofnod

Dangos ar fap

10,000