Deiseb a wrthodwyd Cadw Lwfans Person Sengl o ran y Dreth Gyngor yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dileu'r gostyngiad person sengl, sy'n rhoi gostyngiad o 25 y cant ar filiau pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Bydd pobl 'sengl' weithgar sydd wedi cynilo a gwella eu cartrefi yn wynebu cynnydd sydyn yn eu biliau treth gyngor. Yn y bôn, mae’n dreth ar uchelgais ac ymfalchïo yn eich tŷ a'ch cymdogaeth. Gallai'r cynlluniau weld cannoedd o bunnoedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu at filiau cyfartalog. Daeth dogfen a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2022 i’r casgliad y dylid diddymu’r gostyngiad person sengl.

Rhagor o fanylion

Mae'n ymddangos bod pobl sengl i fod i sybsideiddio cartrefi eraill. Mewn cartref â dau berson, mae pob un yn talu 50 y cant o'r cynnydd, ond mae pobl sengl yn talu 75 y cant, ac mae'n dwysáu bob blwyddyn mae’r dreth yn codi. Mae bil treth gyngor llawn yn tybio bod dau oedolyn yn byw mewn eiddo. Mewn llawer o aelwydydd, mae sawl oedolyn o oedran gweithio gyda’i gilydd yn talu dim ond 25 y cant yn fwy na pherson sengl. Gallai llawer o bobl sengl hefyd ddweud nad yw eu defnydd nhw o gyfleusterau'r cyngor yn gymesur â’r defnydd a wneir ohonynt gan gartrefi mwy; e.e. maen nhw’n creu llai o sbwriel na theulu o bedwar, ond disgwylir iddyn nhw dalu am bethau nad ydyn nhw’n eu defnyddio. Mae’r baich ar aelwydydd pensiynwyr sengl hefyd yn fwy. Bydd pobl hŷn sy’n digwydd byw ‘ar eu pennau eu hunain’ yn y ‘math anghywir o gartrefi’ ac sydd eisoes yn cael trafferth i reoli costau byw cynyddol yn dioddef caledi ariannol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi