Deiseb a wrthodwyd Dylai rhenti yng Nghymru gael eu rhewi i helpu gyda'r argyfwng costau byw
Mae rhenti yng Nghymru wedi codi bron 14 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, sef y cynnydd mwyaf yn y DU y tu allan i Lundain. Gyda biliau ynni yn dyblu mewn blwyddyn, prisiau tanwydd yn codi’n aruthrol a chwyddiant yn arwain at gynnydd ym mhrisiau nwyddau bob dydd, bydd tenantiaid Cymru yn dioddef effeithiau gwaethaf yr argyfwng. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd rhenti yn cael eu rhewi tan fis Mawrth 2023 i helpu tenantiaid drwy’r argyfwng costau byw. Dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un peth.
Rhagor o fanylion
Ni fyddai rhewi rhenti yn gostus i Lywodraeth Cymru, ond byddai’n helpu i dawelu meddyliau cannoedd o filoedd o denantiaid ledled Cymru. Byddai’n helpu i roi sicrwydd iddynt ynghylch eu tenantiaeth gan na fyddai landlordiaid yn gallu codi’r rhent ar ddiwedd cytundeb tenantiaeth.
Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru fod ar ochr tenantiaid yn ystod argyfwng costau byw mor niweidiol. Mae penderfyniad Llywodraeth yr Alban i rewi rhenti yn dangos beth sy’n bosibl yng Nghymru.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi