Deiseb a gwblhawyd Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn
Rydym yn galw am osod terfyn cyflymder o 30mya ar yr A5 drwy bentref Glasfryn fel mater o frys - cyn i rywun gael ei ladd.
Mae teuluoedd yn byw ar fin y ffordd beryglus yma. Mae busnesau yn cael eu rhedeg ar fin y ffordd ac mae amaethwyr a chontractwyr yn ei defnyddio bob dydd i gynnal busnesau.
Dros y blynyddoedd, bu nifer o ddamweiniau difrifol gan gynnwys un farwolaeth a sawl digwyddiad agos i ddamwain. Mae hwn yn fater brys gan mai dim ond mater o amser ydi hi cyn y ceir digwyddiad difrifol arall.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon