Deiseb a wrthodwyd Dileu Treth Trafodiadau Tir i brynwyr tro cyntaf yng Nghymru ar gyfer eiddo o dan £425,000
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau ar 23 Medi i gael gwared ar y dreth stamp ar gyfer prynwyr tro cyntaf sy’n prynu eiddo o dan £425,000 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn yr esiampl honno. Mae prynu cartref yng Nghymru yn mynd yn fwyfwy anodd i brynwyr tro cyntaf, a byddai peidio â chael gwared ar y dreth hon yng Nghymru yn arwain at fwy o bobl yn symud dros y bont neu’n gorfod parhau i rentu, yn methu â mentro i’r farchnad dai.
Rhagor o fanylion
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi