Deiseb a gwblhawyd Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith

Gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid i dalu'r cyflog byw GWIRIONEDDOL i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a oedd yn £9.90. Ym mis Medi, cynyddodd y Cyflog Byw Gwirioneddol a osodwyd gan y Real Living Wage Foundation (RLFW) i £10.90. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd mewn argyfwng costau byw. Maen nhw'n gweld gweithwyr achrededig y RLWF yn cael o leiaf £1 yr awr yn rhagor na hwy mewn swyddi llawer llai medrus. Fe fyddan nhw'n gadael y sector yn fuan!

https://llyw.cymru/gweithredur-cyflog-byw-gwirioneddol-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-cymdeithasol

Rhagor o fanylion

Mae angen i arian gael ei alinio i ddyddiad gweithredu'r Real Living Wage Foundation (mis Tachwedd bob blwyddyn), neu bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo hyd yn oed yn fwy anniddig pan fydd yn codi eto y flwyddyn nesaf. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio'n fawr a’u bod yn cael cam gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

328 llofnod

Dangos ar fap

10,000