Deiseb a wrthodwyd Gwnewch Mansion House yn breswylfa swyddogol i Brif Weinidog Cymru

Er bod gan Brif Weinidog yr Alban gartref swyddogol, nid oes gan Brif Weinidog Cymru ac mae hynny’n creu anghydbwysedd rhwng yr arweinwyr datganoledig. Mansion House, sef preswylfa swyddogol Arglwydd Faer Caerdydd, yw'r lle delfrydol ar gyfer preswylfa o'r fath. Mae ei chynllun yn addas i gynnal digwyddiadau a chiniawau swyddogol, ac mae wedi'i lleoli ger canol prifddinas y genedl. At hynny, nid yw’n cael ei defnyddio’n aml gan yr Arglwydd Faer, felly mae hyn yn gyfle delfrydol i wneud gwell defnydd o’r safle hwn.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi