Deiseb a wrthodwyd Creu Canolfan Arbenigol ar gyfer Sarcoma yng Nghymru

Mae’n peri pryder mawr iawn nad oes yr un ysbyty abrenigol ar gyfer sarcoma yr esgyrn a meinweoedd meddal yng Nghymru gyfan a bod yn rhaid i gleifion o Gymru gael eu trin mewn dwy o bymtheg canolfan arbenigol yn Lloegr. Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ariannu Canolfan Arbenigol ar gyfer Sarcoma yng Nghymru er mwyn gallu cyflymu’r broses o roi diagnosis Sarcoma a rhoi’r cyfle gorau i gleifion fel fy mam oroesi.

Rhagor o fanylion

Y llynedd, cafodd fy mam ddiagnosis o MycsoFfibroSarcoma yn ei throed. Ers hynny, bu’n rhaid torri ei choes i ffwrdd, ac mae hi erbyn hyn yn mynd drwy chemotherapi pellach ac yn wynebu’r posibilrwydd o hemipelfectomi. Cyn y diagnosis hwn, nid oeddwn i a fy nheulu wedi clywed am Sarcoma o’r blaen. Nid oedd hyn yn syndod i mi ar ôl ymchwilio i’r pôl YouGov Poll yn 2020 a ddywedodd nad yw 75% o’r DU yn gwybod beth yw Sarcoma.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi