Deiseb a wrthodwyd Dylid ôl-ddyddio gostyngiadau’r dreth gyngor o ran dementia i’r dyddiad ardystio gan Feddyg Teulu
Dim ond os oes ganddynt dystysgrif feddygol a'u bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol y caiff pobl â dementia eu 'diystyru' (peidio â’u cyfrif) o ran y dreth gyngor. Mae cyfnodau aros hir am rai budd-daliadau, ac felly mae llawer o bobl â dementia yn gorfod aros am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i fod yn gymwys ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor.
Rhagor o fanylion
Rydym am i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd wedyn yn mynd ymlaen i fod yn gymwys i gael budd-dal perthnasol. Dylai hyn arwain at fod pobl â dementia, ni waeth beth fo’u hoedran, yn cael gostyngiadau ychwanegol yn y dreth gyngor am gyfnodau hwy, a allai arbed miloedd o bunnoedd iddynt o ran eu bil treth gyngor.
Mae dros 600,000 o bobl yn y DU â dementia yn cael gofal yn eu cartrefi. Rydym ni o’r farn fod y rheolau presennol yn annheg, a bod angen eu diwygio.
Mae’r deisebwyr felly yn gofyn i’r Senedd annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod diystyriadau o ran y dreth gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cafodd person ardystiad gan y meddyg teulu fel rhywun â Nam Meddyliol Difrifol, pan fydd yr unigolyn wedyn yn gymwys i gael budd-dal perthnasol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi