Deiseb a wrthodwyd Agor cronfa iawndal gweithwyr allweddol i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan Covid Hir fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol.

Yn ystod y pandemig COVID-19, roedd gweithwyr allweddol y DU ar y rheng flaen. Mae'r ffigurau diweddaraf bellach yn dangos bod 2.3 miliwn o bobl yn dweud eu bod yn byw gyda Covid Hir yn y DU, ac mae llawer o'r rheini yn weithwyr allweddol a barhaodd i weithio tra bod gweddill y DU yn gwarchod eu hunain, yn wynebu cyfyngiadau symud neu ar ffyrlo.
Er gwaethaf y peryglon, lle collodd rhai o'r bobl anhygoel hyn eu bywydau, heddiw nid oes cefnogaeth i'r rhai sydd wedi’u gadael yn y digwyddiad anablu torfol mwyaf ers degawdau.

Rhagor o fanylion

Mae'r Grŵp Seneddol Hollbleidiol wedi rhyddhau'r adroddiad a ganlyn ac un o'r prif argymhellion oedd agor y gronfa hon. Er hynny, mae misoedd wedi mynd heibio ac nid yw Llywodraeth y DU yn dangos unrhyw arwyddion o wneud unrhyw beth i helpu'r bobl hyn.

https://www.appgcoronavirus.uk/home/long-covid-report-march-2022

Rydym ni sydd wedi llofnodi, yn galw ar Senedd Cymru i weithredu ar unwaith a chywiro'r sefyllfa hon sy’n wrthun yn foesol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi