Deiseb a wrthodwyd Stopiwch Llywodraeth Cymru rhag mynd i Gwpan y Byd yn Qatar
Mae record llywodraeth Qatar yng nghyd-destun hawliau dynol pobl hoyw a gweithwyr mudol yn ddychrynllyd. Mae Mark Drakeford a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi cael gwahoddiad i fynd i Gwpan y Byd am ddim. Dylent wrthod mynd er mwyn gwneud safiad yn erbyn llywodraeth Qatar a’i pholisïau gormesol. Peidiwch â mynd i’r gystadleuaeth na’i chefnogi, na’i chydnabod mewn unrhyw ffordd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi