Deiseb a wrthodwyd Creu croesfan nodedig rhwng Bae Baglan a Thwyni Crymlyn.
Creu cyswllt trafnidiaeth aml-ddull newydd rhwng Abertawe a Phort Talbot drwy adeiladu croesfan rhwng Bae Baglan a Thwyni Crymlyn er mwyn i bob siwrnai fod yn gyflymach ac yn fwy uniongyrchol. Byddai hyn yn helpu i liniaru problemau traffig a hefyd yn creu ffordd arall i gerbydau yn ystod achosion o argyfwng. Byddai hefyd yn hwyluso teithiau llesol cyflymach. Mae potensial i greu croesfan nodedig (pont, twnnel, sarn sy’n arnofio ac yn caniatáu mynediad i longau) a chymryd camau i sicrhau y gellid datblygu cysylltiadau rheilffordd/tramiau yn y dyfodol.
Rhagor o fanylion
Mae angen llwybr newydd fel bod ffordd wahanol i’r M4, sydd â thagfeydd mawr yn ystod oriau brig, ac o gofio bod yr adeileddau ym Mhort Talbot yn heneiddio ac y bydd angen eu hadnewyddu/uwchraddio yn y dyfodol agos mae’n debyg, byddai ffordd arall ar gael pe bai angen cau’r M4 i ymgymryd â rhaglen waith benodol.
Mae’n bosibl y gallai prosiect Metro Bae Abertawe Trafnidiaeth Cymru wella’r cysylltiadau rheilffordd neu ddatblygu gwasanaethau tram dros groesfan newydd.
Gellid dargyfeirio Llwybr Arfordir Cymru dros y groesfan er mwyn iddo redeg yn agosach at yr arfordir.
Gallai gynnig mynediad gwell a fyddai’n denu darpar fuddsoddwyr/cyflogwyr i Barc Ynni Bae Baglan, sy’n dal yn ardal tir llwyd da.
Gellid defnyddio’r bont i wella brand Bae Abertawe ymhellach.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi