Deiseb a wrthodwyd Dylid ail-ystyried Deddf yr Iaith Gymraeg i sicrhau bod cyfathrebu'n gost-effeithiol

Rwy'n cael llythyrau ysbyty, llythyrau y DVLA ac ati yn gyson a chânt eu dyblygu yn Gymraeg, ac, er fy mod yn cefnogi hawl pobl sy'n byw yng Nghymru i gael y rhain yn Gymraeg fel siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith, mewn cyfnod o gynni economaidd mae’r ffaith nad yw siaradwyr di-Gymraeg yn cael optio allan o gael y llythyrau yn ddwyieithog yn wastraff diangen o arian y gellid ei wario'n fwy buddiol mewn man arall.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi