Deiseb a wrthodwyd Hoffwn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwersi Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am ddim i rieni plant byddar.

Mae’n hanfodol nad yw plant byddar yn cael eu gadael ar ôl oherwydd na all eu teuluoedd fforddio dysgu i gyfathrebu â nhw. Mae cymhorthion clyw yn wych, ond nid ydyn nhw bob amser yn effeithiol.
Mae fy maban bach, Alvie, yn weddol fyddar. Rydym wedi dewis dysgu Iaith Arwyddion Prydain. Mae’n rhagorol bod BSL bellach yn iaith gydnabyddedig, ond nid yw hynny’n ddigon os nad oes gan bobl yr arian i’w dysgu.
Llofnodwch hwn i helpu rhieni gael mynediad hawdd, am ddim i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi