Deiseb a gwblhawyd Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio.

Mae'r byd yn wynebu argyfwng ynni, ac rydym i gyd yn wynebu argyfyngau brawychus o ran yr hinsawdd a byd natur. Dyma pam mae mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.
Dylai pob adeilad diwydiannol, masnachol a domestig newydd (nad yw yn y cysgod nac yn wynebu'r gogledd) gynnwys cyfarpar ynni solar fel rhan o'r broses o gael caniatâd cynllunio.
Mae'r haul yn cynhyrchu mwy na digon o ynni i ddiwallu anghenion ynni'r byd i gyd, ac nid yw'r ynni hwnnw’n debygol o ddod i ben.

Rhagor o fanylion

Mae nifer o fanteision amgylcheddol ynghlwm wrth ddefnyddio paneli solar. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd, ac nid ydynt yn creu allyriadau wrth wneud hynny.
#1 Maent yn lleihau'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio o'r Grid Cenedlaethol. Maent yn lleihau tlodi ynni ac yn ein helpu ni i gadw’r goleuadau ymlaen.
#2 Nid ydynt yn creu allyriadau. Gallant leihau ôl troed carbon eich cartref 80 y cant mewn blwyddyn.
#3 Maent yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae ynni solar yn fath o ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn golygu bod digon ohono i bawb ei rannu, gan ei fod yn ffynhonnell o ynni na fydd yn dod i ben (nid am biliynau o flynyddoedd, beth bynnag). Mae tanwyddau ffosil yn ffynonellau cyfyngedig o ynni, ac rydym yn niweidio'r blaned pan fyddwn yn cloddio amdanynt ac yn eu dosbarthu.
#4 Maent yn para am amser hir ac nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt, os o gwbl. Mae angen ailosod unedau gwresogi confensiynol a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn gymharol reolaidd. Gall hyn achosi llawer o wastraff nad yw'n ecogyfeillgar, yn ogystal â chynyddu'r angen am fwy o unedau. Gan fod paneli solar yn para tua 50 mlynedd, ni ddylai fod angen i chi eu hadnewyddu am amser hir.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

268 llofnod

Dangos ar fap

10,000