Deiseb a gaewyd Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru.
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Senedd Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno Cwotâu ar sail Rhyw ac Ethnigrwydd yn ei systemau etholiadol ac mae’n galw am fwy o gynrychiolaeth i bobl o gefndir anabledd. At hynny, mae’n gofyn pa gamau y mae’r Senedd hon a’i phum rhagflaenydd wedi’u cymryd i sicrhau ei bod yn adlewyrchu Cymru gyfan yn well.
Rhagor o fanylion
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 5.2 y cant o bobl Cymru o gefndir ethnig lleiafrifol, ond nid yw’r ffigur hwn yn cael ei adlewyrchu yng nghyfansoddiad presennol y Senedd. At hynny, mae 48.9 y cant yn fenywod yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gyda dros un o bob pump o’r boblogaeth yn nodi eu bod yn anabl.
Fodd bynnag, nid yw Senedd Cymru’n adlewyrchu'r amrywiaeth hon.
Dim ond 43 y cant o’r Aelodau a etholwyd i’r Senedd sy’n fenywod, a thri Aelod yn unig sydd o gefndir ethnig lleiafrifol, gyda phobl anabl yn gweld ond ychydig gynrychiolaeth, os o gwbl. Bu gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r niferoedd hyn yn dal i fod yn syfrdanol o isel ac, o’r herwydd, mae lleisiau mewn rhannau helaeth o boblogaeth Cymru heb gael eu clywed.
Mae angen cynrychiolaeth yn y Senedd, fel bod anghenion pawb yn cael eu diwallu a'u deall gan eu llywodraeth.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon