Deiseb a gwblhawyd Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol

Mae hanes yn bwnc mor allweddol i ni yma yn Nghymru. Mae straeon o'n cenedl yn dangos i ni sut rydym ni wedi datblygu dros y canrifoedd i fod fel rydym heddiw. Mae cymeriadau wedi lliwio'r hanes diddorol yma, gyda neb mor amlwg ag Owain Glyndŵr, sydd wedi cyfrannu gymaint i'n hunaniaeth, ac mae llawer yn ei ddefnyddio fel symbol y genedl. Mae'n ddigalon iawn i weld bod cartref Glyndŵr, sef Sycharth, bron yn angof yng nghanol cefn gwlad Powys, a dyw'r lle ddim yn hygyrch iawn i bobl gael ymweld.

Rhagor o fanylion

Mae'n amser i'r Llywodraeth fynd ati i sicrhau bod y safle hollbwysig yma'n cael ei gadw'n saff i'r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a'i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi'r safle bendigedig yma.
Mae'n siomedig gweld yr holl gestyll o gwmpas Cymru'n cael eu gwarchod, a bod y safle yma prin yn cael ei hysbysebu, heb sôn am ddathlu.
Amser newid y ffordd edrychwn ni ar hanes Cymru, gan ddechrau gyda Sycharth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,539 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 13 Medi 2023

Gwyliwch y ddeiseb ‘Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Medi 2023.