Deiseb a gwblhawyd Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru.

Dyma gri o’r galon rhag i bobl Cymru golli adnodd diwylliannol hanfodol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i’r adwy.
Byddai trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru i gorff masnachol yn peryglu adnodd sy’n rhan hanfodol a llewyrchus o fywyd cymunedol a diwylliannol Caerdydd ac, yn anochel, yn effeithio ar seilwaith creadigol ehangach Cymru.

Rhagor o fanylion

Caiff dros 330 o berfformiadau eu cynnal yn y Neuadd bob blwyddyn, llawer ohonynt yn ennyn sylw cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn denu pobl o bob cwr o Gymru ac mae hefyd yn denu canran uwch o ymwelwyr o Loegr nag unrhyw leoliad arall yng Nghymru.
Hon yw’r unig neuadd gyngerdd gerddorfaol yng Nghymru a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer cerddorfa lawn. Dyma gartref cystadleuaeth Cardiff Singer of the World, Cerddorfa Genedlaethol Cymru a’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol - ynghyd â pherfformiadau diwylliannol amrywiol gan gynnwys ballet, cerddoriaeth bop/roc, jazz a gwerin a pherfformiadau gan ddigrifwyr.
Mae’r lleoliad yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gyfranogi ac ymgysylltu’n greadigol, ac mae’n adnodd cymunedol ac yn adnodd dysgu amhrisiadwy i bobl Caerdydd a Chymru gyfan.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,575 llofnod

Dangos ar fap

10,000