Deiseb a wrthodwyd Rhowch stop ar gost ychwanegol ddiangen alcohol yng Nghymru

Mae’r Senedd wedi penderfynu cynyddu cost alcohol yng Nghymru dan gochl lleihau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru a’r pwysau ar y GIG o ganlyniad i hynny. Ac eto mae'r arian ychwanegol sy’n cael ei godi’n mynd i'r gwerthwyr h.y. archfarchnadoedd, siopau cornel ac ati.

Rhagor o fanylion

Nid oes dim o'r arian hwn yn mynd at y GIG yng Nghymru, er bod hyn, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn cael effaith arno. Rwy’n cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y gost ychwanegol hon neu’n defnyddio’r elw i leihau’r gost i’r GIG. Yr unig bobl sy'n elwa ar y tâl ychwanegol yw'r gwerthwyr a'u cyfranddalwyr.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi