Deiseb a gwblhawyd Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu’r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae tua 1,400 o blant a phobl ifanc â diabetes math 1 yng Nghymru. O ran y plant hynny sy'n byw ag anableddau o'r fath, mae angen cymorth arnynt yn yr ysgol i reoli eu cyflwr a sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial. Fel mam, rwyf yn un o lawer o rieni nad yw eu plant, sydd â diabetes math 1, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn sgil diffyg dealltwriaeth o’r cyllid ar gyfer darparu’r gofal sydd ei angen yn yr ysgol. Rydw i ac eraill wedi profi diffyg cymorth o ran gofal, ac rwy’n ceisio newid y sefyllfa hon.

Rhagor o fanylion

Rwy'n rhwystredig ynghylch y diffyg mynediad at gefnogaeth bwrpasol; heb y gefnogaeth hon, gall diabetes math 1 arwain at gymhlethdodau sy'n peryglu bywydau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio plant â diabetes yn gyfreithiol fel pobl sy'n byw ag anabledd. Rhaid i sefydliadau addysg fel ysgolion sicrhau nad yw disgyblion sy'n byw gyda diabetes yn dioddef anfantais.
Ni waeth pa mor hyderus yw’r plentyn dan sylw, nid yw plant yn gallu cael eu hyfforddi ar y defnydd o bwmp inswlin tan eu bod yn 11 oed. Felly, gan fod plant yn cael diagnosis o’r adeg y cânt eu geni, mae’r cymorth a ddarperir rhwng yr ysgol feithrin a’r ysgol gynradd yn fwy hanfodol fyth o ran rheoli diabetes.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gam i’w groesawu. Fodd bynnag, dim ond nawr y mae'r Ddeddf honno’n cael ei rhoi ar waith. Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi cyflwyno mesur statudol, sef Cynlluniau Datblygu Unigol, at ddibenion cefnogi myfyrwyr drwy ddatblygu fframwaith cefnogol er mwyn sicrhau bod eu hanghenion academaidd, corfforol a chymorth yn cael eu diwallu.
Rwy'n gofyn i'n Llywodraeth adolygu'r canllawiau presennol ar gyfer y ddeddfwriaeth ADY newydd er mwyn cynyddu cyfranogiad ysgolion/Awdurdodau Lleol drwy greu canllawiau a chymorth ar ffurf hygyrch sy'n lleihau unrhyw rwystrau o ran mynediad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

347 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Am fwy o wybodaeth am yr ymchwiliad a sut i rannu eich barn:
https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40923