Deiseb a wrthodwyd Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo a hwyluso dulliau profi generadur ynni gwyrdd newydd yng Nghaerdydd

O ystyried, pe bai’n llwyddiannus, byddai’r prawf hwn yn agor ffynhonnell ddiderfyn bron o “ynni glân a rhad” a fyddai ymhell y tu hwnt i unrhyw alw posibl gan ddyn am ynni yn y gorffennol, y presennol na’r dyfodol. Oherwydd mae’r dyfeisiau hyn yn cael eu defnyddio i gymryd lle peiriannau a gweithfeydd pŵer tanwydd ffosil a thanwydd niwclear sy’n bod ledled y byd dros yr 20 mlynedd a mwy nesaf. Byddant yn anochel yn arwain at ostyngiad o 95% a rhagor o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, a thrwy wneud hynny yn dechrau arafu, atal ac yn y pen draw gwrthdroi cynhesu byd-eang o waith dyn yr ydym oll ei angen ac yn ei ddeisyf!

Rhagor o fanylion

Nid yw'r ddyfais hon yn ddim mwy na “Thrawsnewidydd Disgyrchiant” syml a gynlluniwyd i drosi ynni disgyrchiant yn ynni cinetig, a throsi'r ynni cinetig hwn yn ynni trydanol ar gylchred ddiwydiannol, fasnachol a pharhaus. Caiff dyfais o'r fath, mewn gwirionedd, ei diffinio a'i phennu gan Wyddoniaeth ac Academia ac yn y Gyfraith fel dyfais symudiad diddiwedd o'r “Math Cyntaf” a dyfais yw na fyddai’n “Ymddangos” bod unrhyw waith yn cael ei gyflawni ar ei chyfer, ond serch hynny “a Gyflawnir” gan rymoedd effaith disgyrchiant anweledig, ac aliniad syml masáu disgyrchiant mewn modd sy’n cychwyn a chynnal màs wrth symud. Mae'r symudiad a achosir yr un mor gyson â'r màs neu'r masáu sy'n ffurfio system o'r math a geir yn nhrai a llanw “Diddiwedd” y môr neu symudiad “Cyson” cyrff planedol Natur. Grymoedd planedol yw’r grymoedd disgyrchiant a gaiff eu trawsnewid yn rymoedd planedol, a chânt eu cynhyrchu ar raddfa blanedol, ac maen nhw’n ffynhonnell ynni bosibl a fyddai ymhell y tu hwnt i unrhyw alw posibl am ynni gan ddyn nawr nac yn y dyfodol, a hynny heb greu dim llygredd!

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi