Deiseb a wrthodwyd Diwedd ar bleidleisio mewn cerbyd

Ar ôl gweld y cynghorydd Andrew Wood yn pleidleisio'n fyw ar ei ffôn wrth yrru ei gar, mae'n dangos i mi pa mor bwysig yw hi i warantu diogelwch drwy beidio â phleidleisio mewn unrhyw gerbyd, a dylai’r Cadeirydd fod yn wyliadwrus ynghylch y mater.

Ni allwch fod yn siŵr a yw ceir y pleidleiswyr yn llonydd ai peidio, felly yr unig ffordd i fod yn sicr yw gwahardd pleidleisio mewn cerbyd yn y lle cyntaf.
Dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol er mwyn rhoi diwedd i bleidleisio mewn cerbydau.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi