Deiseb a wrthodwyd Dylid gostwng cyfraddau llog ac atal ad-daliadau i Gyllid Myfyrwyr Cymru dros dro i’n helpu o ran yr argyfwng costau byw
Mae ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr ar hyn o bryd yn cymryd ymhell dros £100 allan o'm cyflog terfynol bob mis, a byddai hwn yn talu am neges wythnosol o’r siop neu'n mynd tuag at filiau ynni. Pan gefais gymorth gan fy nghyflogwr yn ddiweddar fel taliad untro, roedd y dyn treth a Chyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) yn cymryd y cyfan ohono bron. Does bosib bod mwy o angen yr arian hwn ar unigolion nag ar Gyllid Myfyrwyr Cymru yn yr argyfwng presennol? Mae'n teimlo fel pe baem ni’n cael ein cosbi am ennill rhagor o gyflog a cheisio gwella ein hunain, pan mai union ddiben mynd i'r brifysgol yw gwneud hynny!
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi