Deiseb a gaewyd Ariannu mwy o leoedd mewn ysgolion arbenigol a staff i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru

Wrth edrych ar gyllid a ddarperir ar gyfer darpariaethau arbenigol yng Nghymru i blant ag anghenion ychwanegol, mae’n bell o fod yn dderbyniol bod yn rhaid i blant sydd â lefel uchel o anghenion gael eu gorfodi i aros mewn amgylchedd prif ffrwd oherwydd diffyg lleoedd mewn ysgolion ac oherwydd nad oes gan ysgolion ddigon o arian na staff!

Rhagor o fanylion

Mae ysgolion arbenigol a darpariaethau uned ledled Cymru eisoes yn llawn ac nid yw’r rhai sydd ddim yn llawn eto yn bell y tu ôl. Nid oes digon o staff mewn ysgolion, mae staff eisoes yn gorweithio, ni all plant ag anghenion dysgu ychwanegol gael yr addysg a’r cymorth y maent yn ei haeddu o’r dechrau. Mewn nifer o achosion, mae ymyrraeth gynnar yn eithriadol o bwysig ac mae’r cyfleoedd hyn yn cael eu tynnu oddi ar blant oherwydd yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu yn ein system addysg.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,429 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Am fwy o wybodaeth am yr ymchwiliad a sut i rannu eich barn ewch i:
https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40923