Deiseb a gaewyd Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd

Credaf y dylai fod gan bob plentyn mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru hawl i gael drafnidiaeth gyhoeddus am ddim er mwyn iddynt allu teithio i’w hysgol uwchradd ddalgylch* yn ddiogel.

Rydym yn byw 2.4 milltir o ysgol uwchradd ein plant ond mae ein cyngor yn datgan mai dim ond i’r rhai sy’n byw 3 milltir (neu ymhellach) o’u hysgol uwchradd ddalgylch y mae trafnidiaeth am ddim ar gael. Byddai cerdded i'r ysgol yn cymryd rhwng 50 munud ac awr o'n tŷ ni ar hyd ffyrdd prysur a gordyrrog. Nid oes llwybr beicio diogel.

Fel teulu rydym yn gwario dros £80 y mis ar docynnau bws ar gyfer ein 2 blentyn. Mae’n arian na allwn ei fforddio mewn gwirionedd ond i rai rhieni mae canfod £40 y mis (y plentyn) yn amhosib ac felly mae eu plant yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd ffyrdd tywyll, prysur, peryglus a llygredig er mwyn cyrraedd yr ysgol. Mae hyn yn annheg ac yn gwahaniaethu yn erbyn y plant tlotaf mewn cymdeithas.

Rhagor o fanylion

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad (Mawrth 2022) o ‘Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)’ ac ym mis Mehefin 2022 dywedodd Mark Drakeford y bydd 'rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr a fydd yn sicrhau bod ein holl randdeiliaid yn cael y cyfle i gyfrannu at yr adolygiad ehangach dilynol'.

Diolch am arwyddo.

*Mae ysgol uwchradd ddalgylch yn cyfeirio at leoliad addysg CA3/4 y plentyn/person ifanc gan gynnwys y Ysgolion cyfrwng Cymraeg, Ysgolion cyfrwng Saesneg, Ysgolion dwyieithog, Ysgolion Ffydd, Ysgolion Arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion, darpariaeth EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) ac ati.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

349 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

Mae Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd y Senedd Ieuenctid ar hyn o bryd yn rhedeg ymgynghoriad ar drafnidiaeth cyhoeddus a theithio llesol. Maent am glywed profiadau pobl ifanc am gost, dibynadwyedd, hygyrchedd a diogelwch trafnidiaeth cyhoeddus a theithio llesol. Bydd y canfyddiadau yna yn cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg hyd at Fehefin 2023.

Dyma’r ymgynghoriad i bobl Ifanc (o dan 25): https://forms.office.com/e/AqXQVxXDjw ac dyma’r ymgynghoriad ar gyfer oedolion (dros 25): https://forms.office.com/e/wEE2wnZ8mD.