Deiseb a gwblhawyd Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai

Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, un o lond llaw o Gestyll Pasiant sy’n weddill yn y DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a Charles I, a'r fyddin yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941, llosgwyd y tu mewn yn ulw ac mae'n dal i fod yn adfail mewn perygl. Mae’n heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi dirywio drwy berchnogaeth breifat. Mae un o'r tyrau wedi syrthio a, heb ymyriad bwriadol, bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan...

Rhagor o fanylion

Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw archaeoleg ac adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, ond mae angen rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i’r perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud Cynlluniau Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a'u colli wedyn. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd, risgiau, a chyfleoedd i warchod a gwella'r heneb, er mwyn peidio â niweidio’r hyn sy'n arbennig a sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r hyn sy'n cael ei werthfawrogi i genedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff henebion sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall. Bydd hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau arwyddocaol o'n treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein llesiant. Mae'r gymuned wedi bod yn ceisio ei achub ers 25 mlynedd https://www.ruperracastle.wales/about-us-283027.html.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

7,469 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 18 Hydref 2023

Gwyliwch y ddeiseb ‘Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref 2023.

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 3,111 o lofnodion ar bapur. Sef cyfanswm o 10,580 lofnodion.