Deiseb a wrthodwyd Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch Sepsis
Mae diffyg ymwybyddiaeth ynghylch sepsis mewn cymunedau yn golygu’n aml bod yr unigolion hynny sy’n sâl yn cymryd amser cyn cael mynediad at ofal iechyd, sy'n peri oedi o ran cael diagnosis a thriniaeth a gall hynny, yn ei dro, fod yn angheuol, neu arwain at ganlyniadau sy'n newid bywyd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch sepsis fel bod pobl yn gwybod beth yw symptomau sepsis ac yn cael mynediad at ofal iechyd mewn da bryd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi