Deiseb a gaewyd Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan annatod wrth gysylltu plant Cymru â chyfleoedd addysgol, cymdeithasol a gwaith. Fodd bynnag, yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymell trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau carbon a gwella twf economaidd.

Rhagor o fanylion

Roedd cynhadledd ENYA yn 2022, lle roedd 2 gynrychiolydd ifanc o Gymru yn bresennol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus eco-gyfeillgar ddibynadwy, reolaidd, caffaeladwy, hygyrch, diogel a fforddiadwy i bob ardal, gan gynnwys ardaloedd gwledig. (ENOC: https://enoc.eu/wp-content/uploads/ENYA-2022-FORUM-REPORT-FV.pdf)
Roedd Cynllun Tocynnau 9-Ewro yr Almaen yn darparu cludiant diderfyn i deithwyr mewn ardaloedd rhanbarthol a lleol, ac arbedodd 1.8 miliwn tunnell o CO2. Arweiniodd y cynllun hefyd at gynnydd o 80% yn nifer y teithiau trên i ardaloedd twristiaeth gwledig. (Wicipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/9-Euro-Ticket#cite_note-16)
Mae Trafnidiaeth Gyhoeddus yn anfforddiadwy, gan fod tocynnau Rheilffyrdd, Coets a Bws wedi codi rhwng 33% a 74% yn ystod y degawd diwethaf. Mae hyn yn destun pryder, o gofio nad oes gan 23% o Gymru, yn ogystal â'r mwyafrif o bobl o dan 18 oed y defnydd o gar. Mae pobl ifanc hefyd mewn mwy o berygl o brofi tlodi trafnidiaeth, sy'n rhwystr rhag cael gafael ar gyfleoedd addysgol, cyflogaeth a chymdeithasol. (Sustrans: https://www.sustrans.org.uk/media/10425/transportpovertypaper-sustrans_eng.pdf)

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

381 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

Mae Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd y Senedd Ieuenctid ar hyn o bryd yn rhedeg ymgynghoriad ar drafnidiaeth cyhoeddus a theithio llesol. Maent am glywed profiadau pobl ifanc am gost, dibynadwyedd, hygyrchedd a diogelwch trafnidiaeth cyhoeddus a theithio llesol. Bydd y canfyddiadau yna yn cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg hyd at Fehefin 2023.

Dyma’r ymgynghoriad i bobl Ifanc(o dan 25): https://forms.office.com/e/AqXQVxXDjw ac dyma’r ymgynghoriad ar gyfer oedolion (dros 25): https://forms.office.com/e/wEE2wnZ8mD.