Deiseb a wrthodwyd Rhowch gymorth ychwanegol i wasanaethau bysiau gwledig yng Nghymru i atal unrhyw leihad.
Mae’r Gwasanaeth Bws 512 sy’n teithio rhwng Aberystwyth, Borth ac Ynyslas yn cael ei weithredu gan Gwmni Bysiau Mid Wales Motorways ac ers 30 Ionawr, mae newidiadau’n cael eu gwneud i’r amserlen bysiau a fydd yn golygu na fydd bellach wasanaeth bws bob awr.
Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar lawer o bobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, apwyntiadau’r GIG a hybiau cymunedol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi