Deiseb a wrthodwyd Deiseb i adfer enwau ardaloedd brodorol (Cymraeg) a chynnig fersiynau ffonetig (islaw) ar arwyddion.
Fel yn achos llawer o wledydd eraill ledled y byd, nawr yw’r amser i ailsefydlu ein hunaniaeth frodorol, drwy newid enwau Saesneg a osodwyd ar ardaloedd yn ôl i’w gwir enwau (yn yr iaith frodorol).
Er mwyn ailsefydlu ein hymdeimlad cenedlaethol o hunaniaeth a pherthyn (hiraeth), mae’n hanfodol yn y cyfnod ôl-drefedigaethol hwn inni ganiatáu ein hunain i adennill ein tir, ein hiaith a’n henwau lleoedd. Byddai fersiynau ffonetig (ar arwyddion) yn gyfle i bobl ddi-Gymraeg roi cynnig ar ynganu'r enwau yn gywir.
Rhagor o fanylion
Nid oes angen inni gael ein hadnabod bellach wrth yr enw Saesneg (Wales), sy’n golygu Seisnigaidd.
Hefyd, mae sillafiadau Seisnigaidd amhriodol, neu enwau lleoedd anfrodorol llwyr, wedi bod yn graith ar hanes mapiedig Cymru, ac i ryw raddau maent wedi cael eu defnyddio fel ffordd o osod goruchafiaeth drefedigaethol ar boblogaethau brodorol.
Nid yw ond yn iawn inni unioni camweddau’r gorffennol a chreu mwy o ymdeimlad o berthyn cenedlaethol, tra’n gwneud ein cenedl yn gyrchfan llawer mwy deniadol i ymwelwyr o bedwar ban byd.
Gallwn ni i gyd rannu harddwch ein hiaith genedlaethol a’r ymdeimlad ehangach o hunaniaeth sy’n dod yn sgil hynny.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi