Deiseb a gaewyd Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Mae feirws brech y gwiwerod yn cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd. Nid yw'r feirws yn eu niweidio nhw. O gael eu heintio, mae gwiwerod coch yn datblygu briwiau agored dros eu croen ac yn dioddef marwolaeth boenus o fewn pythefnos
Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 a 80 y cant o wiwerod coch Gwynedd mewn brigiad o achosion yn 2020/21: https://theconversation.com/squirrelpox-outbreak-detected-in-north-wales-without-a-vaccine-the-disease-will-keep-decimating-red-squirrels-196811
Daeth cyllid Sefydliad Moredun ar gyfer ymchwil addawol i frechlyn i ben.

Rhagor o fanylion

Mae Cynllun Diogelu’r Gwiwerod Coch yng Nghymru (tudalen 9) yn dangos bod y rhan fwyaf o wiwerod coch Cymru mewn coedwigoedd lle mae gwiwerod llwyd hefyd yn byw. Golyga hyn fod feirws y frech yn fygythiad mawr yng Nghymru. https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/691093/cym-cynllun-diogelu-r-wiwer-goch-yng-nghymru.pdf?mode=pad&rnd=132272074460000000
Ym Mangor, cafwyd nifer o achosion o feirws brech y gwiwerod yn y cyfnod 2017-2022. Daethpwyd ar draws cyrff gwiwerod coch mewn coetir ger Pont Britannia a Phont Grog Telford. Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yr haint yn croesi’r Fenai a lledaenu i Ynys Môn. Mae’r ynys yn gartref i boblogaeth fwyaf Cymru o wiwerod coch.
Mae'r haint yn achosi symptomau erchyll:
http://www.britishredsquirrel.org/red-squirrels/disease/
Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ymchwil, megis yr ymchwil ohiriedig i frechlyn gan Moredun/Wildlife Ark Trust: https://www.dailyrecord.co.uk/news/local-news/red-squirrel-vaccine-under-threat-2540293

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11,313 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y ddeiseb hon ar 27 Medi 2023

Gallwch chi wylio’r ddadl ar-lein yn senedd.tv